Scroll down to read this page in English!

Ein gwaith yng Nghymru

Twristiaeth er budd y gymuned

Sut olwg fyddai ar dwristiaeth pe bai’n gweithio i gymunedau llechi?

Dyma’r cwestiwn y gwnaethom gefnogi pobl leol yng nghymoedd llechi Gogledd Cymru i’w archwilio fel rhan o bartneriaeth a ariannwyd gan UKRI.

Gweithiom gyda Foundational Alliance Wales, Foundational Economi Research Ltd, Siop Griffiths, Partneriaeth Ogwen a Chwmni Bro Ffestiniog i recriwtio naw ymchwilydd cymunedol o fewn tair cymuned.

Mae’r rhwydwaith wedi datblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer model twristiaeth amgen sy’n fuddiol i gymunedau, ac wedi lansio eu canfyddiadau a’u cynigion i ystafell o benderfynwyr.

Rydym yn gyffrous bod y rhwydwaith, gyda’n gilydd, wedi sicrhau cyllid gan UKRI i ehangu ac esblygu’r gwaith hwn dros y pum mlynedd nesaf.

owDychymygu’r Dyfodol gyda phobl ifanc

nDros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chefnogaeth gan JRF, rydym wedi bod yn treialu gwaith i archwilio beth sydd ei angen i ddychmygu dyfodol economaidd gwahanol gyda phobl ifanc ar y cyd.

Mae’n brosiect dychymyg mewn dau le: Bethesda yn Nyffryn Ogwen a Blaenau Ffestiniog. Mae’n digwydd yn 2024, yn 2034 ac yn y cyfamser.

Gan bartneriaid a pherthnasoedd presennol, roeddem yn gwybod bod chwalfa seilwaith ieuenctid wedi gadael pobl ifanc hŷn yn teimlo’n ddatgysylltiedig yn y lleoedd hyn.

Gyda chefnogaeth gan ymarferydd dychymyg, a chyda dau berson ifanc wedi’u recriwtio fel interniaid o fewn tîm y prosiect, fe wnaethom ddefnydd o adrodd straeon, gwneud gwrthrychau a mynegiadau artistig eraill i gefnogi cyfranogwyr ifanc i ddychmygu’r economïau y maent yn hiraethu amdanynt.

Fe geisiom greu lle i bobl ifanc greu posibiliadau cyffrous i’w dyfodol yn eu trefi.

Gwyliwch arddangosfa ein blwyddyn gyntaf yma.

Archwilio mentrau ac arloesi er budd y gymuned

 Cwestiwn arall rydyn ni’n ei archwilio yng Nghymru, wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yw sut i dyfu mentrau sy’n elwa’r gymuned, a deall y rôl y gallant ei chwarae mewn newid economi Cymru.

Gyda Foundational Alliance Wales a Foundational Economic Research Ltd, rydyn ni’n archwilio sut y gallant roi mwy o rym, llais ac asiantaeth i gymunedau sy’n profi ymyleiddio a thlodi ar hyn o bryd, a thros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi bod yn cynnal cyfweliadau ag arloeswyr cymdeithasol o bob math o wahanol fentrau er budd cymunedau.

Darllenwch ein hadroddiad yma.

Oes gennych chi diddordeb mewn partneru â ni yng Nghymru, neu ein hyfforddiant a’n gweithdai?

Cysylltwch â Jess:

Jess.Silvester[at]peopleseconomyuk.org.

Our work in Wales

Community-benefiting tourism

What would tourism look like if it worked for slate communities?

This is the question we supported local people in North Wales slate valleys to explore as part of a UKRI-funded partnership.

We worked with Foundational Alliance Wales, Foundational Economy Research Ltd, Siop Griffiths, Partneriaeth Ogwen and Cwmni Bro Ffestiniog to recruit nine community researchers from within three communities.

The network have developed a collective vision for an alternative tourism model that benefits communities, and launched their findings and proposals to a room of decision makers. 

We’re excited that together the network have secured funding from UKRI to expand and evolve this work over the next five years.

Collective imagination with young people in slate valleys

Over the last year, with support from JRF, we’ve been piloting work to explore what it takes to really collectively imagine a different economic future with young people.

It’s an imagination project in two places: Bethesda in Dyffryn Ogwen and Blaenau Ffestiniog. It takes place in 2024, in 2034 and in between. 

From partners and existing relationships, we knew that the crumbling of youth infrastructure had left older young people feeling disconnected in these places. 

With support from an imagination practitioner, and with two young people recruited as interns within the project team, we used storytelling, object making and other artistic expressions to support young participants to imagine the economies they long for. 

We sought to create space for young people to feel agency in creating exciting possibilities, and not just having to focus their attention on firefighting waves of bad news.

Watch the showcase of our first year here.

Exploring community benefiting enterprise

Another question we’re exploring in Wales, funded by National Lottery Community Fund, is how to grow community benefitting enterprise (CBE), and understand the role they can play in progressive change for the Welsh economy.

With Foundational Alliance Wales and Foundational Economic Research Ltd, we’re exploring how they can give more power, voice and agency to communities currently experiencing marginalisation and poverty, and over the last year we’ve been holding interviews with social innovators from all kinds of different CBEs.

Read our report here.

Interested in partnering with us in Wales, or accessing our training and workshops?

Get in touch with Jess at Jess.Silvester[at]peopleseconomyuk.org.